top of page
Y Mellt-2.png

Bio - Cymraeg

Dechreuodd pethau yn ôl yn 1965 pan brynodd rhieni Gwyndaf gitâr glasurol ail law o siop gerddoriaeth Wagstaff yn Llandudno.  Roedd yn flwyddyn yn ddiweddarach pan chwaraeodd gyntaf o flaen gynulleidfa gyda'i chwaer yn canu caneuon Cymraeg. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ffurfiodd ei fand cyntaf gyda thri ffrind yn ymuno a Gwyndaf a'i chwaer pan oedd yn 14 oed.  Enw'r grŵp oedd  'Y Mellt'. Aelodau eraill oedd Elfed Williams (Llais & Gitâr)  Rhianwen Williams (Llais) Glyn Jenkins (Gitâr) a George Jones (Drymiau). Chwaraeodd y grŵp mewn Clybiau Nos a Nosweithiau Llawen yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

 

Ymddangosodd Gwyndaf hefo nifer o grwpiau ac artistiaid dros y blynyddoedd - Mwg Drwg, Mimosa, Crysbas, Deuawd M & G, White Lines, Closing Time, Diving Ducks a Rivertown i enwi rhai ohonynt, yn ogystal â gwneud sesiynau recordio a gwaith teledu.

bottom of page